Comisiynwyr Ar-wylio Skip site navigation

Cartref

 | 

 | 

 | 

 | 

 | 

  

English | Cymraeg

 


Defnyddio'r pwerau statudol: Canllaw Cyflym

Dylech:

  •  
Ddeall y ddeddfwriaeth
  •  
Rhoi sylw i hyfforddiant
  •  
Llunio eich polisïau a'ch gweithdrefnau eich hun
  •  
Chwilio am enghreifftiau o arfer da a gwael
  •  
Cofio ein pwyntiau allweddol'

Cliciwch yma am y canllaw cyflawn

Swyddfa'r Comisiynwyr Ar-wylio.

Bwriadwyd y wefan hon yn bennaf i'w defnyddio gan y rheini sy'n awdurdodi ac yn cynnal gweithrediadau ar-wylio cudd a ffynonellau cudd-ymchwil dynol (fel y gelwir achwynwyr a chudd-swyddogion yn awr). Mae'n dangos sut i gyflawni'r gweithgareddau hyn gan gydymffurfio gyda'r pwerau a roddwyd gan y Senedd, a sut mae'r OSC yn monitro'r modd y mae'r pwerau hyn yn cael eu harfer. Rydym yn cynnig cymorth ymarferol trwy nodi rhai pwyntiau allweddol, rhai ffynonellau cyngor, a rhai enghreifftiau o arfer da ac arfer gwael.

Rwy'n gobeithio y bydd y wefan yn ddefnyddiol i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn dysgu am ar-wylio cudd. Mae'n werth nodi, er bod y wefan hon yn berthnasol i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol, nad yw'n delio gyda chlustfeinio ar negesau ffôn. Mae'r egwyddorion cyfreithiol sylfaenol i'w gweld yn Neddf Heddlu 1997, y byddwn yn cyfeirio ati fel 'Deddf 1997', Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol 2000 ('RIPA') a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwiliol (Yr Alban) 2000 (`RIP(S)A').

Rydym yn bwriadu datblygu'r wefan. Bydd sut y gwnawn hynny'n dibynnu ar y defnydd a wneir ohoni. Felly cofiwch gadewch i ni wybod os credwch y gellir ei gwella.

The Rt Hon Sir Christopher Rose
Prif Comisiynydd Ar-wylio
Swyddfa'r Comisiynwyr Ar-wylio
PO Box 29105,
London, SW1V 1ZU
Tel: 020 7828 3421
Fax: 020 7592 1788


 

  Map gwefan | Cymorth technegol | Telerau a amodau

 

© 2009 Comisiynwyr Ar-wylio